Cymru’n herio’r Almaen a’r Eidal

Buwch a mochyn ar y fwydlen mewn gornest goginio ryngwladol yng Ngholeg Llandrillo

 
Yr wythnos hon cyhoeddwyd bod Cymru am herio’r Almaen a’r Eidal er mwyn amddiffyn Tlws Y Ddraig ym Mhencampwriaeth Coginio Rhyngwladol Cymru , fis Chwefror y flwyddyn nesaf.

Cyhoeddwyd y newyddion gan lywydd Cymdeithas Goginio Cymru, Peter Jackson, cydberchennog Gwesty Maes y Neuadd yn Nhalsarnau. Cynhelir y gystadleuaeth yng Ngholeg Llandrillo Cymru, Llandrillo yn Rhos.

Oen

Fe fydd yr Eidalwyr yn agor y gystadleuaeth ar y dydd Mawrth wrth goginio cinio tri chwrs ar gyfer 80 o bobl a gweini cig oen Cymreig ar gyfer y prif gwrs.

Mochyn

Ar y dydd Mercher fe fydd yr Almaen yn gobeithio adennill y tlws wnaethon nhw gipio yn 2006. Eu gobaith fydd hawlio’r wobr gyda phrif gwrs o borc Cymreig.

Buwch

Yn olaf, ar y dydd Iau, fydd tîm Coginio Cenedlaethol Cymru yn ymdrechu i blesio’r beirniad wrth goginio cig eidion fel eu prif gwrs.

Fe fydd y gystadleuaeth yn cael ei gorchwylio gan banel rhyngwladol o feirniaid profiadol ac mi fydden nhw’n cadw llygad barcud ar y cystadleuwyr wrth eu gwaith yn y gegin.

Fe fydd talcen caled yn wynebu’r Cymry gan fod yr Eidal yn y deg uchaf o wledydd coginio’r byd, tra bod yr Almaen yn y pump uchaf yn rhestr y detholion.

Mae cystadleuaeth ‘Brwydr am y Ddraig’ yn un o uchafbwyntiau Pencampwriaeth Coginio Rhyngwladol Cymru sy’n cael ei drefnu gan Gymdeithas Goginio Cymru a’i noddi gan Lywodraeth Cymru a Hybu Cig Cymru.

Dweud eich dweud