Llygaid Barcud Ymgyrch SNAP!

Dros y blynyddoedd diwethaf mae’r defnydd o ‘dashcams’ mewn ceir wedi tyfu’n fwy a mwy poblogaidd; mewn rhai ceir newydd bellach, mae ‘dashcams’ wedi eu hadeiladu yn rhan o fframwaith y car.

Gall ‘dashcams’ fod yn ddefnyddiol iawn mewn damwain car gan roi tystiolaeth gadarn i’r cwmni yswiriant. Ond, yn ogystal â hynny, gall deunydd a gipiwyd ar y camera fod yn dystiolaeth mewn achosion o yrru diofal a pheryglus ar ffyrdd Cymru.

Dechreuodd aelodau o’r cyhoedd ddod â thystiolaeth ‘dashcams’ at yr heddlu rai blynyddoedd yn ôl bellach, ond doedd dim system effeithiol ar gael ar gyfer derbyn a delio gyda’r dystiolaeth newydd yma. Ar gyfartaledd roedd pob achos yn golygu tua 16 awr o amser plismona.

O ganlyniad i’r dystiolaeth gynyddol yma am droseddau gyrru, ar ffurf fideo neu luniau , fe wnaeth GanBwyll edrych sut y gall yr heddlu ymateb mewn modd sy’n syml i’r cyhoedd ac a fydd yn lleihau yr amser plismona, a hynny drwy system ddiogel ac effeithiol.

Yn 2017 fe dreialodd Heddlu Gogledd Cymru y system newydd – Ymgyrch SNAP (Operation SNAP).

Beth yw Ymgyrch SNAP?

Mae SNAP yn ymchwilio i droseddau gyrru’n beryglus, gyrru heb y gofal a’r sylw dyladwy, gyrru diofal, defnyddio ffôn symudol wrth yrru, peidio â gwisgo gwregys diogelwch, gyrru drwy olau coch, croesi llinellau gwyn solet yn anghyfreithlon a throseddau eraill lle mae’n amlwg nad yw’r gyrrwr yn rheoli’r cerbyd yn iawn.

Mae’r dystiolaeth yr ydych yn ei darparu i’r heddlu drwy gyflwyno ffilm neu lun cyfryngau digidol a datganiad yn cael ei hystyried gan swyddog profiadol yn gyntaf i benderfynu a oes trosedd wedi’i chyflawni ac i nodi’r drosedd benodol.

Yna, bydd yr wybodaeth yn cael ei throsglwyddo i’r Swyddfa Docynnau Ganolog lle bydd y drosedd yn cael ei phrosesu a chaiff gwaith papur penodol ei anfon at yrrwr y cerbyd a oedd wedi cyflawni’r drosedd.

• Gallwch gael mwy o wybodaeth ar ein gwefan: https://gosafe.org/faq/operation-snap/?lang=cy

• Gallwch roi gwybod am droseddau drwy fynd ar ein gwefan, lle gallwch uwchlwytho’r dystiolaeth a llenwi datganiad: https://gosafesnap.cymru/

Rydym yn derbyn dros 200 o gyflwyniadau bob mis drwy Weithrediad SNAP gyda throseddau yn amrwyio o geir yn gyrru trwy olau coch i geir yn gyrru yn ddiofal wrth oddiweddid beic i geir yn gyrru’n beryglus ar draffyrdd prysur.

Mae pob cyflwyniad yn cael ei hadolygu a pob trosedd yn cael ei ddelio gyda’r camau priodol.

Gyda thechnoleg Gweithrediad SNAP bellach ar gael ym mhob un o bedwar Llu Heddlu Cymru mae’r system wedi cwtogi ar yr amser plismona lawr i rhwng 40 munud ac awr ar gyfer pob achos.

Mae technoleg newydd o fudd mawr wrth i ni geisio cadw ffyrdd Cymru’n ddiogel ac heb y cyflwyniadau yma drwy Weithrediad SNAP o law y cyhoedd byddai’r Heddlu ddim yn ymwybodol o’r troseddau hyn ar ein ffyrdd.

Dyfodol Gweithrediad SNAP

Mae llwyddiant Gweithrediad SNAP yng Nghymru wedi ysbrydoli sawl Llu Heddlu o Loegr i ddod at GanBwyll i ddysgu mwy am sut mae’r Gweithreddiad yn gweithio ac maent wedi mabwysiadu’r Gweithrediad yn eu hardlaoedd nhw. Yn ogystal ac yn y DU mae Llu Heddlu Hong Kong a Llysgennad Japan i Brydain wedi ymweld a GanBwyll i ddysgu mwy am effeithiolrwydd y Gweithrediad.

Un o obeithion mawr Gweithrediad SNAP ydy newid ymddygiad ac agweddau pobl wrth yrru ac i feddwl ddwywaith am yrru’n ddiofal neu yn beryglus.

Does dim esgus am beryglu bywydau ar ein ffyrdd drwy yrru’n ddiofal neu yn beryglus ac erbyn hyn nid yn unig yr Heddlu sydd a llygaid barcud ar ddefnyddwyr ein ffyrdd!

Dweud eich dweud