GanBwyll Dros y Nadolig

Pwy yw GanBwyll?

GanBwyll yw’r Bartneriaeth Lleihau Anafiadau Ffyrdd Cymru. Ni yw’r bartneriaeth fwyaf o’i math yn y Deyrnas Unedig a’n nod strategol yw gwneud pobl yn fwy diogel ar ffyrdd Cymru drwy leihau’r nifer sy’n cael eu hanafu a’u lladd.

Mae’r bartneriaeth yn cynnwys 27 partner cyfartal, yn cynnwys y 22 Awdurdod Unedol yng Nghymru, y 4 Llu Heddlu yng Nghymru a Llywodraeth Cymru. Rydym hefyd yn gweithio’n agos gyda’r GICC a’r Gwasanaethau Tân ac Achub yng Nghymru.

Mae’r bartneriaeth yn gyfrifol am orfodaeth camerâu golau coch a goryrru ond nid mater o orfodi’r gyfraith yn unig yw lleihau anafiadau. Rydym yn annog gyrwyr i yrru’n gyfreithlon ac yn ddiogel drwy addysgu a thrwy gynnig atebion peirianyddol parhaol i ffyrdd.

Am fwy o wybodaeth am GanBwyll a’n gwaith ewch i’n gwefan.

Arian Dirwy Neu Arian i’w Gadw?

Un o’r chwedlau mwyaf ynghylch pwrpas camerâu cyflymder ydy’r gred mai yna i wneud arian y mae’r camerâu a’n bod ni’n eu cuddio er mwyn dal modurwyr ac yn eu gosod mewn mannau fydd yn arwain at y lefel uchaf o dramgwyddo er mwyn gwneud mwy o arian.

Dyw camerâu ddim yn cael eu cuddio i ddal gyrwyr na’u gosod lle byddant yn dal mwya’ o bobl yn goryrru. Mae camerâu yno i annog modurwyr i yrru o fewn y cyfyngiad cyflymder, felly’r camerâu mwyaf llwyddiannus yw’r rhai sy’n cofnodi’r lefel ISAF o dramgwyddo, nid yr uchaf.

Y gwir yw mai pwrpas y camerâu yw gwneud ffyrdd Cymru’n fwy diogel ac nid gwneud arian.

Dyw’r heddlu nac unrhyw bartneriaid eraill i Gan Bwyll ddim yn gwneud elw o ddirwyon cyflymder ac mae holl refeniw dirwyon yn mynd yn syth i’r Trysorlys. Ariennir GanBwyll gan grant Llywodraeth Cymru; mae’r grant hefyd yn talu am weddill ein costau gweithredu a ddarperir ar ddisgresiwn Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu Cymru.

Rydym yn gwybod bod mis Rhagfyr yn gyfnod prysur a drud iawn wrth fynd i gyngherddau Nadolig, partïon a siopa am anrhegion.  Mae’n hawdd anghofio am y cyfyngderau cyflymder wrth ruthro i gyrraedd rhywle mewn pryd, neu i ddal siop cyn iddi gau; ond gall goryrru ychydig o filltiroedd dros y cyfyngder olygu’r gwahaniaeth rhwng £100 mewn dirwy a £100 i’w gadw.

Dydy hi ddim werth goryrru i arbed ychydig o funudau. Felly treuliwch ychydig o amser yn cynllunio eich taith gan ganiatáu amser ychwanegol ar gyfer unrhyw oedi annisgwyl megis ciwiau traffig a dargyfeiriadau.

Fel rhan o Ymgyrch Nadolig 2018 GanBwyll rydym yn annog gyrwyr i gadw golwg ar eu cyflymder ac i feddwl ddwywaith cyn cymryd y risg a goryrru.

Dydyn ni ddim eisiau eich arian, rydym am wneud ffyrdd Cymru’n fwy diogel.

Ar beth fyddai’n well gyda chi wario eich £100?

Noson allan gyda’ch ffrindiau?

Anrhegion i’ch teulu?

Trip i’r sinema gyda’r plant?

Neu £100 mewn dirwy?

@GanBwyllCymru / @GoSafeCymru

Dweud eich dweud