Dathlu’r Nadolig gydag Amgueddfa Cymru

Dewch i ddathlu’r Nadolig gydag Amgueddfa Cymru. Mae yna lu o ddigwyddiadau ar draws yr Amgueddfeydd i ddathlu’r ŵyl. 

Dewch i ddathlu’r Nadolig gydag Amgueddfa Cymru. Mae yna lu o ddigwyddiadau ar draws yr Amgueddfeydd i ddathlu’r ŵyl. 

Dewch i baratoi ar gyfer y Nadolig yn Ffair Gaeaf arbennig i’r teulu cyfan yn Amgueddfa Lechi Cymru yn Llanberis ar 2 Rhagfyr rhwng 11am-3.45pm.

Yma, gallwch deithio’n ôl i weld gorffennol diwydiant llechi wrth fwynhau gweithgareddau Nadolig – mwynhewch sesiynau adrodd straeon, paentio wynebau, sioe bypedau a cherddoriaeth gyda Seindorf Arian Deiniolen. Crwydrwch o amgylch Tai’r Chwarelwyr a fydd wedi eu haddurno ar gyfer y Nadolig a dewch i weld Sion Corn a fydd wedi ymgartrefu yn Nhai’r Chwarelwyr o flaen y tan!

Bydd Nadolig Cymreig traddodiadol yn dod yn fyw yn Sain Ffagan mis Rhagfyr. Cydiwch mewn llusern, gwisgwch yn gynnes a dilyn y seren i Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru ar gyrion Caerdydd, 6-8 Rhagfyr rhwng 6pm a 9pm.

Bydd perfformiadau o draddodiadau Nadolig unigryw Cymru: y Fari Lwyd a Hela’r Dryw. Bydd tanllwyth o dân, carolau yn y capel, canu Plygain traddodiadol yn yr Eglwys a band pres ar lawnt Gwalia. Bydd cyfle i’r rhai bach gwrdd â Siôn Corn a gallwch ysgrifennu llythyr at y dyn ei hun yn yr ysgoldy Fictoraidd a’i bostio yn swyddfa bost leiaf Cymru.

Yn ogystal â’n gweithdai crefft, bydd yna lu o weithgareddau eraill, gan gynnwys creu torchau i oedolion, addurno dynion bach sinsir gyda’r teulu cyfan a llawer mwy. Wrth i’r noson ddod i ben, bydd cyfle i ganu carolau i godi eich calon yn y Neuadd Groeso.

Bydd mwy o garolau i’w clywed yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd ar 13 Rhagfyr 3.30pm gyda chyngerdd carolau traddodiadol ym mhrydferthwch y Brif Neuadd.  Yna, ar 15 a 16 Rhagfyr, bydd yr Amguedda yn ddathlu dangos llong gofod Tim Peake gyda digwyddiad Nadoligaidd ar y thema Sêr. Mwynhewch grefftau, gweithgareddau a cherddoriaeth dan luwch o fflachlwch tymhorol. Bydd Siôn Corn yn glanio yn yr Amgueddfa rhwng 11am – 12.30pm, a 2pm – 3.30pm ar y ddau ddiwrnod.

Dewch i gwrdd â cheirw go iawn draw yn Amgueddfa Genedlaethol y Glannau yn Abertawe. Bydd cyfle i ddysgu am eu ffordd o fyw fel rhan o ddigwyddiad Ceirw, Crefftau a Charolau ar 8 Rhagfyr. Bydd hefyd cyfle i fwynhau ffilmiau Nadoligaidd yn yr Amgueddfa yn ystod mis Rhagfyr, gan gynnwys The Polar Express a Stickman.

Ymunwch â Siân Corn am frecwast neu ginio ysgafn yn Big Pit Amgueddfa Loafol Cymru ar 8 a 9 Rhagfyr. Beth am ymweld â gweithdy’r corachod a chreu tegan neu addurn Nadolig i fynd adref gyda chi.

Yna, ar 16 Rhagfyr, fe fydd Siôn Corn yn gyrraedd pen pwll, gan godi 300 troedfedd o grombil y ddaear ar ei ffordd i Begwn y Gogledd. Ar ôl cyrraedd (a chanfod ei goblynnod bach!) bydd cyfle i’w gyfarfod a dweud wrtho beth sydd ar eich rhestr Nadolig, rhwng 11am-1pm and 1.30pm-4pm.

Dewch i ganu carolau a chwrdd â Siôn Corn yn Amgueddfa Wlan Cymru ar 18 Rhagfyr o 6.30pm. Beth am greu siglwr eira, ymuno a Mrs Nadolig i glywed straeon Nadolig neu ddod o hyd i’r coblynnod sydd yn cuddio yn yr orielau ar 1 Rhagfyr.

Codir tal am rhai gweithgareddau. Rhaid archebu tocynnau ymlaen llaw ar gyfer Nosweithiau Nadolig Sain Ffagan a Brecwast gyda Siân Corn. Am docynnau, ewch i amgueddfa.cymru

© WALES NEWS SERVICE
St Fagans christmas shoot
© WALES NEWS SERVICE

 

Dweud eich dweud