Cawr y Caws yng Ngŵyl Fwyd y Fenni

Cyfle i ennill tocynnau i sesiwn diwtora a blasu caws arbennig


Caws Golden Cenarth

Mae’r Ŵyl Fwyd yn dychwelyd i’r Fenni y penwythnos yma, 17 a 18 Medi, i hyrwyddo a dathlu amryw o fwydydd traddodiadol ac egsotig.

Rhwng 11 a 12 fore Sadwrn fe fydd y gwneuthurwr caws adnabyddus Carwyn Adams o gwmni Caws Cenarth, yn cynnal sesiwn diwtora a blasu caws – y tro cyntaf erioed i sesiwn gael ei chynnal drwy gyfrwng y Gymraeg yng Ngŵyl y Fenni. Fe fydd Carwyn yn egluro’r broses o greu cawsiau newydd ac unigryw ac yn cyflwyno’r ystod o gawsiau sy’n cael eu gwneud yng Nghaws Cenarth, gan gynnwys Golden Cenarth, Prif Bencampwr Gwobrau Caws Prydain llynedd.

Mewn cydweithrediad â Gŵyl Fwyd y Fenni, mae Golwg360.com yn gallu cynnig 10 pâr o docynnau i’r sesiwn diwtora a blasu caws, yn rhad ac am ddim**. (Gwerth y tocynnau yn £8 yr un.)

Os oes gennych ddiddordeb mewn derbyn tocyn am ddim i’r sesiwn diwtora a blasu caws yna anfonwch e-bost at cystadleuaeth@golwg.com gan nodi eich enw a manylion cyswllt, erbyn 4pm Dydd Gwener 16eg o Fedi.

**Noder nid yw’r tocyn i’r sesiwn diwtora blasu caws yn cynnwys mynediad i’r Ŵyl Fwyd ei hun. Mynediad i’r ŵyl yn £8 dydd Sadwrn a £6.50 dydd Sul.

Dweud eich dweud