Siop Fferm Organig Rhug

Siop Fferm Organig Rhug


(Llun Fforch i Fforc)
Y diweddaraf mewn cyfres o astudiaethau achos gan
Fforch i Fforc sy’n edrych ar farchnadoedd ffermwyr, siopau fferm a’u cynhyrchwyr. Siop Fferm Organig Rhug yw’r diweddaraf yn y gyfres…

Sefydlwyd Fferm Organig Rhug gyntaf pan gymerodd Robert Wynn, yr wythfed iarll, gyfrifoldeb am stâd y teulu yn yr hydref 1998. Aeth ati’n syth i addasu’r stâd ar gyfer cynhyrchu organig.

Yn 2002 sefydlodd Arglwydd Newborough Siop Fferm Stâd Rhug gyda’i chownter cigydd a’i hadain arlwyo a chwta 18 mis yn ddiweddarach, enwyd Rhug Organic yn Adwerthwr Fferm y Flwyddyn yng Nghymru.

Ers ennill y wobr, aeth Siop Fferm Stâd Rhug o nerth i nerth. Yn ogystal â gwerthu cig y stâd yn y siop, mae’r cig oen, eidion a chyw iâr hefyd yn cael ei werthu i rai o’r prif fwytai sêr Michelin fel Raymond Blanc yn Le Manoir, Alain Ducasse yn y Dorchester ac mae’n cael ei allforio i 6 bwyty seren yn Hong Kong a Singapore. Y cyfan yn rhan o drefniant a ddisgrifiwyd gan y garddwr teledu Monty Don yn ‘fodel o gynhyrchu organig’.

Mae Siop Fferm Stâd Rhug yn ffrwyth cred angerddol mewn cynnyrch o ansawdd uchel sy’n cael ei wneud gan gynhyrchwyr llai sydd hefyd yn credu’n angerddol mewn bwyd sy’n blasu’n wych.

Tyfodd y dewis o gynhyrchion yn siop Rhug yn y 4 blynedd diwethaf o 300 o gynhyrchion i fwy na 1800 ac erbyn hyn maen nhw’n gwerthu dewis helaeth o gynhyrchion, o gonau hufen ia organig a chacennau cartref i olwython cig oen organig a selsig wedi’u gwneud â llaw.

Mae gan Siop Fferm Rhug gasgliad syml o egwyddorion ar gyfer ei holl gynhyrchion; ydyn nhw’n blasu’n wych? A ellir eu prynu’n lleol? Ydyn nhw’n cael eu cynhyrchu gan bobl a chanddyn nhw wir falchder yn eu gwaith? Mae Rhug yn ceisio gwneud profiad eu cwsmeriaid yn un mor ddymunol ag y bo modd, boed hynny’n golygu prynu hamper parod ar gyfer penwythnos i ffwrdd, cig arobryn neu goffi a byrgyr wrth fynd am dro yn ein lloc Bual.

Os na allwch gyrraedd Rhug, maen nhw hefyd yn gwerthu eu cynnyrch trwy’r siop ar-lein ac maen nhw hefyd yn rhedeg cynllun Clwb Blychau Bwyd Gourmet gyda’r cogydd enwog o Gymro Bryn Williams.

Dweud eich dweud