Siop Fferm Derwen

Siop Fferm Derwen ger y Trallwng


Siop Fferm Derwen (Llun Fforch i Fforc)
Y diweddaraf mewn cyfres o astudiaethau achos gan
Fforch i Fforc sy’n edrych ar farchnadoedd ffermwyr, siopau fferm a’u cynhyrchwyr. Siop Fferm Derwen ger y Trallwng sy’n cael ein sylw yr wythnos hon…

Mae Siop Fferm Derwen yn eiddo i Rachael Joseph ac mae wedi’i lleoli ar dir Canolfan Arddio Derwen yn Guilsfield ger y Trallwng. Agorwyd y siop yn 2006.

Mae’n amlwg iawn fod bwyd yn bwysig iawn i Rachael. Mae wedi casglu nifer fawr o fwydydd hyfryd at ei gilydd ac mae wastad yn chwilio am gyflenwyr cynnyrch ffres, bwyd organig a danteithion arbenigol.

Mae’r siop yn gyforiog o bopeth allech fod ei eisiau ar gyfer eich siopa wythnosol, yn ogystal â nwyddau moethus ac anrhegion.

Mae’r prif bwyslais ar gynnyrch ffres, lleol o ansawdd da – organig os yn bosib.

Mae’r siop ar agor o ddydd Llun tan ddydd Sadwrn: 9:30am tan 5:30pm ac ar ddydd Sul: 11am tan 5pm.

Mae ffrwythau a llysiau o sawl cyflenwr gwahanol, yn cynnwys y dewis organig gan y Welsh Food Co-operative Organic Fresh Food Company.

Cigoedd buarth lleol, cacennau, jamiau a phicl a dewis gwych o gawsiau Cymreig.

Gallwch hefyd brynu cigoedd wedi’u halltu o Sbaen, wedi’u cynhyrchu’n foesegol o foch buarth Bellota, olewydd o’r llwyni olewydd ac olew yn syth o’r wasg olew, a llawer, llawer mwy.

Dweud eich dweud