Fferm Trealy

Fferm Trealy o Sir Fynwy


Fferm Trealy (Llun Fforch i Fforc)
Y diweddaraf mewn cyfres o astudiaethau achos gan
Fforch i Fforc sy’n edrych ar farchnadoedd ffermwyr, siopau fferm a’u cynhyrchwyr. Fferm Trealy o Sir Fynwy sy’n cael ein sylw yr wythnos hon…

Mae’r grefft o greu y salami neu’r chorizo perffaith yn broses sydd wedi ei pherffeithio dros ganrifoedd gan wledydd y cyfandir. Ond cwta pedair mlynedd yn y byd halltu, mygu ac sychu, ac mae Fferm Trealy o Sir Fynwy bellach yn feistri yn y gwaith yn barod.

Drwy gyfuno technegau traddodiadol Charcuterie gyda’r dechnoleg ddiweddaraf, mae’r fferm deuluol yma yn gallu creu pob math o selsigau a chig mochyn. Dim ond moch sydd yn cael eu magu ar fferm Trealy a ffermydd lleol eraill sydd yn cael eu defnyddio, ac mae’r cynnyrch unigryw a blasus yma ar gael i’w brynu ar hyd a lled y Deyrnas Gyfunol.

Wrth i’r galw am eu cynnyrch gynyddu, mi fydd 2009 yn flwyddyn fawr i’r busnes, ac mae’n debyg y bydd rhaid symud i adeilad bwrpasol newydd cyn diwedd y flwyddyn. Gobeithio elwa ar enw da gwobrau’r Gwir Flas mae Fferm Trealy hefyd, gan godi proffil eu busnes yma yng Nghymru a thu hwnt.

Dweud eich dweud