Canolfan Organig Primrose

Canolfan Organig Primrose ger y Mynydd Du yw’r diweddaraf yn y gyfres


Canolfan Organic Primrose (Llun Fforch i Fforc)
Y diweddaraf mewn cyfres o astudiaethau achos gan Fforch i Fforc sy’n edrych ar farchnadoedd ffermwyr, siopau fferm a’u cynhyrchwyr. Canolfan Organig Primrose ger y Mynydd Du sy’n cael ein sylw yr wythnos hon…

Mae’r ganolfan organig hwn wedi leoli ar droed y Mynydd Du, yn agos i’r Gelli Gandryll.

Cae llwm, gydag un coeden afalau a phlanhigyn rhiwbob yn unig oedd sylfaen y cwmni i ddechrau, ond bellach mae wedi datblygu i fod yn ganolfan llewyrchus iawn. Caiff gwerth oddeutu £20,000 o gynnyrch ei dyfu yn flynyddol ar yr 1.5 acer; busnes llysiau a ffrwythau blodeuog iawn sydd hefyd yn cynnwys Gardd Goedwig, ble y gellir darganfod amrywiaeth o goed ffrwythau a chnau.

Mae Canolfan Organig Primrose yn ran o Gymdeithas y Pridd ers 23 mlynedd ac mae’n fferm arddangos. Mae cynnyrch o’r safon uchaf ac o flas gwych yn cael ei dyfu mewn system bio-amrywiol. Mae’r tîm rheoli wedi’u harwain gan egwyddorion permaculture am 15 mlynedd ac mae’r rhain wedi creu ecosystem o erddi naturiol, ble cynhyrchir toreth anhygoel o fwyd mewn cydbwysedd â natur. Cynaliadwyaeth a chynnal ôl troed carbon isel iawn yw’r nôd.

Mae’r cynnyrch organig yn cael ei werthu i’r gymuned lleol trwy farchnad y Gelli bob Dydd Iau, o fis Mawrth i Rhagfyr.

Dywedodd Dr Paul Benham, ffermwr holistaidd, “Mae’r cynnyrch yn cael ei werthu o fewn 15 milltir, a cyfanswm bychan iawn o danwydd ffosil a ddefnyddir yn y cynhyrchu a dosbarthu. Mae’r fferm yn cael ei reoli gan bobl, ac ychydig iawn o beiriannau a gaiff eu defnyddio. Mae ffrwythlondeb y pridd yn sicrhau bod y cynnyrch yn llawn fitaminau a mineralau. Rydym yn gwerthu i ystod eang o gwsmeriaid, ac i westai a bwytai o’r radd flaenaf ble mae gofyn bod y cynnyrch o safon uchel iawn, a gyda’r blas gorau posibl.”

Dweud eich dweud