Greta’s Wholefoodies

Y diweddaraf mewn cyfres o astudiaethau achos gan Fforch i Fforc


Greta Watts-Jones
Y diweddaraf mewn cyfres o astudiaethau achos gan
Fforch i Fforc sy’n edrych ar farchnadoedd ffermwyr, siopau fferm a’u cynhyrchwyr. Greta’s Wholefoodies sy’n cael ein sylw nesaf…

Cwmni bach â chalon mawr yw Greta’s Wholefoodies, wedi’i leoli’n agos at y Bontfaen.

Dechreuodd Greta Watts-Jones wyth mlynedd yn ôl drwy werthu selsig Morgannwg llysieuol yn y farchnad ffermwyr lleol, gyda’r cyfan yn gwerthu ar yr ymweliad cyntaf. Bellach mae’r cwmni wedi ehangu, ac yn awr yn cynhyrchu amrywiaeth o fyrgyrs llysieuol cyfleus ac iach – gyda’r cynhwysion ffres yn cael eu coginio’n berffaith.

Mae’r cwmni yn pwysleisio ei fod yn defnyddio cynhwysion maethlon, lleol mor aml â phosib, er mwyn creu cynnyrch blasus. Yn rieni i bedwar o blant, mae Greta a’i gwr wedi llwyddo i greu’r byrgyrs rhain o’u cartref, a thrwy gyfuno cymysgedd unigryw o fara lawr, caws a blawd ceirch, mae Greta a’i thîm wedi llwyddo i greu cynnyrch sy’n haeddianol o wobr Gwir Flas.

Dywedodd Greta Watts-Jones, “Mae’n gydnabyddiaeth wych ac yn hwb i ddatblygiad Greta’s Wholefoodies sy’n cynhyrchu bwyd llysieuol o’r safon uchaf, gan arwain at werthiant uwch mewn mannau gwerthu newydd, sydd yn y pen draw yn hybu cynnyrch Cymru.”

Dweud eich dweud