Oaklands Organics

Oakland Organics ym Mro Morgannwg sy’n cael y sylw diweddaraf mewn cyfres o astudiaethau achos gan Fforch i Fforc


John a Rebacca O’Dwyer
Y diweddaraf mewn cyfres o astudiaethau achos gan
Fforch i Fforc sy’n edrych ar farchnadoedd ffermwyr, siopau fferm a’u cynhyrchwyr. Oakland Organics sy’n cael ein sylw yr wythnos hon.

Mae’n amlwg bod gan y busnes teuluol hwn ddawn arbennig o drin anifeiliaid. Wedi ennill gwobrau â’u cig eidion y llynedd, mae Oaklands Organics wedi profi eleni bod eu cyw iar llawn cystal.

Yn ogystal â chadw gwartheg duon cymreig, preiddiau o ddefaid cynhenid Gymreig a moch Tamworth, mae John a Rebacca O’Dwyer yn cadw ieir. Mae ganddynt haid iach a hapus o ryw 250 o ddofednod sy’n treulio bron i bedwar mis yn bwyta’r bwyd maethlon sy’n rhoi iddynt eu blas a’u hansawdd arbennig. Maent yna yn teithio taith fer i’r lladd-dy, sydd ar y fferm organig 133 acer ym Mro Morgannwg. Nid yw cywion ieir Oaklands Organics yn cynnwys unrhyw ychwanegion neu gadwolion a chawsant eu bwydo ar ddiet organig 100% rhydd o GM.

Caiff lles yr anifail a’r amgylchfyd ei barchu gan y fferm, er mwyn cynhyrchu bwydydd o’r safon gorau. Mae 95% o’u cynnyrch yn cael ei werthu i unigolion a thai bwyta o fewn hanner can milltir o glos y fferm, ac mae croeso i unrhywun ymuno â theithiau cerdded o amgylch y fferm i weld yr anifeiliaid a dod i wybod mwy am eu dulliau ffermio arbennig.

Caiff eu hymrwymiad i gynaliadwyedd ei adlewyrchu yn y ffaith nad yw Oaklands Farm ar y grid, gan ddibynnu ar bŵer heulog a gwynt, gyda generadur a batris wrth gefn. Mae ei gerbydau yn rhedeg ar bio-disel a gynhyrchir gartref.

Meddai John O’Dwyer: ‘Rydym ni’n hynod falch o ennill unwaith eto eleni. Fel busnes bach teuluol sy’n cynhyrchu cig a dodfednod o’r fferm i’r plat, mae’r gwobrau yn rhoi hyder i’r cwsmeriaid i brynu. Hoffwn ddweud diolch yn fawr iawn i’n holl gwsmeriaid am eu cefnogaeth dros y flwyddyn diwethaf.

Dweud eich dweud