Môn ar Lwy


Helen Holland o gwmni Môn ar Lwy
Y diweddaraf mewn cyfres o astudiaethau achos gan Fforch i Fforc sy’n edrych ar farchnadoedd ffermwyr, siopau fferm a’u cynhyrchwyr. Môn ar Lwy sy’n cael ein sylw nesaf…

Ail-greu atgofion ei phlentyndod a ysbrydolodd menyw fusnes y flwyddyn 2009 Môn a Gwynedd, Helen Holland, i gychwyn ei busnes hufen ia Môn ar Lwy ar ei fferm ger Llanddwyn yn 2008. O fewn 12 mis roedd y busnes wedi ennill gwobr Aur Blas Gwych.

Bob tro y byddai’n mynd i weld ei nain yng Nghaernarfon byddai’n rhaid galw heibio parlwr hufen ia Bertorelli’s am wydraid bychan o hufen ia cartref. “Mae Môn ar Lwy yn ceisio ail-fyw fy atgofion o Bertorelli’s, creu hufen ia moethus, ffres a rhoi’r profiad hwnnw i bobl eraill.”

Ag yntau’n cael ei wneud â llaw mewn cyflenwadau bychain, mae cyfres Môn ar Lwy yn cynnwys mwy na 60 o flasau gwahanol, gan ddefnyddio cynnyrch lleol a thymhorol, fel Llusi Duon Bach, Mefus a Phupur, Siocled a Chilli.

Yn ôl Helen, “Rydw i wrth fy modd yn arbrofi gyda blasau gwahanol; fy her fwyaf ydy temtio pobl i roi cynnig ar gyfuniadau blas newydd a chyffrous, yn hytrach na’r fanila traddodiadol.”

Yn ogystal â chyflenwi siopau a gwestai lleol, mae Helen hefyd yn mynd â Môn ar Lwy i farchnad ffermwyr Môn a Pharc Glasfryn i roi cynnig ar flasau newydd a chael mwy o sylw i’r enw.

“Wrth edrych at y dyfodol – croesi pob bys am haf chwilboeth, mae’n edrych yn addawol ar gyfer 2010. Rydw i hefyd yn arbrofi gyda blasau hufen ia safri – ond fe fydda i’n cadw rheiny’n gyfrinach am sbel eto.”

Dweud eich dweud