Siop Fferm Thornhill


Y diweddaraf mewn cyfres o astudiaethau achos gan Fforch i Fforc sy’n edrych ar farchnadoedd ffermwyr, siopau fferm a’u cynhyrchwyr. Siop Fferm Thornhill i’r gogledd o Gaerdydd  sy’n cael ein sylw y tro yma…

Gan gynnig amrywiaeth eang o nwyddau, mae’r siop fferm a’r caffi hwn yn ateb gofynion y cwsmer.

Mae Dan, Carol ac Andrew Phillips wedi arallgyfeirio, gan lwyddo i ddod o hyd i ffordd i werthu eu cynnyrch eu hunain, o’u fferm biff a defaid 80 acer, i’r gogledd o Gaerdydd.

Mae’r siop a’r caffi teuluol yn mynd o nerth i nerth ers agor yn 2006 gan werthu cig lleol, ffrwythau a llysiau, ynghyd â chacennau a chyffeithiau. Mae nawr ar agor chwe diwrnod yr wythnos, gyda chwsmeriaid wrth eu boddau â’r amrywiaeth iach o eitemau bwyd cartref. Os nad oes modd ei gynhyrchu ar y fferm, mae’r teulu yn ceisio defnyddio cynnyrch ffermydd cyfagos mor aml â phosib.

Mae’r gacen lemwn llwyddiannus yn cael ei goginio ar leoliad bob dydd, gan ddefnyddio wyau’r fferm a chynhwysion ffres. Dyma’r allwedd i galon….a stumog y cwsmer, mae’n siwr – cynhyrchu bwyd ffres o safon uchel am gost rhesymol, gan, ar yr un pryd, amddiffyn eu hamgylchedd wledig.

Meddai Andy a Carol, “Fel busnes teuluol, lleol, rydym yn ymfalchïo yn y ffaith ein bod yn cyflenwi cynnyrch Cymreig, lleol o safon. Mae ein cacenau lemwn, ymhlith eraill, yn cael eu coginio bob dydd gan dîm o gogyddion crwst ymroddgar a brwdfrydig. “Rydym yn falch iawn o gael ein cydnabod gan Wobrau’r Gwir Flas, sy’n adewyrchu gwaith caled y tîm cyfan yn Siop Fferm Thornhill, a Siop Goffi Antler.”

Dweud eich dweud