Dim ond wythnos i fynd i hyrwyddo’ch hoff gynnyrch!

Brysiwch, mae amser yn mynd yn brin i chi enwebu eich cynnyrch neu fusnes ar gyfer Gwobrau Gwir Flas eleni! Y dyddiad cau ar gyfer cynigion yw 15 Ebrill 2011, felly cliciwch yma i ddysgu mwy am roi cynnig ar y gystadleuaeth.


Os gwyddoch am gynhyrchydd neu fusnes lleol yna cofiwch gysylltu heddiw a dweud wrthynt os rhoddant gynnig arni efallai y byddant yn enillydd Gwobr Gwir Flas ymhen rhai misoedd.

Eleni fe fydd 16 o gategorïau yn y gwobrau sy’n cael eu beirniadu’n annibynnol ac sy’n ceisio cynnwys pob maes ar gynhyrchu a gwerthu bwyd a diod a’r sectorau lletygarwch. Mae’r Gwobrau’n gwobrwyo rhagoriaeth yn y sector bwyd a diod yng Nghymru, felly os gwyddoch am gynhyrchydd cofiwch ddweud wrthynt mai wythnos yn unig sydd ganddynt i roi cynnig arni.

Diddordeb? Os felly, eleni fe fydd 16 Categori yn y gwobrau. Y categorïau ar gyfer gwobrau 2011/12 yw:

– Cynnyrch Cig

– Cynnyrch Llaeth

– Cynnyrch Pob a Melysion

– Cynnyrch Diod

– Pysgod / Cregynbysgod

– Garddwriaeth

– Bwydydd Arbenigol

– Bwyd ar gyfer Iechyd

– Organig

– Gwobr Camp Allforio Cymru

– Cynnyrch Gwir Flas y Flwyddyn Cymru

– Adwerthwr y Flwyddyn

– Prynu’n Lleol

– Bwyta Allan yng Nghymru

– Cyfraniad i Ddatblygu Cynaliadwy

– Lladmerydd Gwir Flas

Rhowch bin ar bapur heddiw ac mewn ychydig fisoedd gallech fod yn enillydd dwbl Gwobr Gwir Flas!

Dweud eich dweud