Gosod Her Cyw Iâr

Ymunwch â’r Her Cyw Iâr a helpu i haneru nifer yr achosion o wenwyn bwyd Campylobacter


Fel cenedl, rydym ni’n caru cyw iâr – mae’n dod â phawb ynghyd o amgylch y bwrdd bwyd am ginio dydd Sul ac o gwmpas y barbeciw ar brynhawniau braf.

Ond mae un broblem fach; gall cyw iâr achosi gwenwyn bwyd. Mae’r Asiantaeth Safonau Bwyd yn amcangyfrif y gellir olrhain oddeutu 280,000 o achosion o wenwyn bwyd y flwyddyn i Campylobacter – germ sy’n byw gan amlaf ar gyw iâr amrwd. Mae’n amhosibl ei weld, ei arogli na hyd yn oed ei flasu mewn bwyd, ond os yw’n effeithio arnoch chi – gyda symptomau yn cynnwys poen yn yr abdomen, dolur rhydd difrifol ac, weithiau, chwydu – nid ydych yn debygol o’i anghofio. Ar ei waethaf, gall Campylobacter eich lladd neu eich parlysu.

Mae’r Asiantaeth eisiau haneru nifer yr achosion o wenwyn bwyd Campylobacter erbyn diwedd 2015. Bydd gwneud addewid i wynebu’r Her Cyw Iâr, a gwneud o leiaf un peth i gadw ein hunain yn ddiogel ac yn iach, yn ein helpu ni i gyrraedd y nod hwn.

Felly, ar gyfer yr Wythnos Diogelwch Bwyd (18 i 24 Mai), mae’r Asiantaeth yn gofyn i chi wynebu’r her ac addo:

  • Gorchuddio cyw iâr amrwd a’i storio ar wahân i fwydydd eraill, a’i gadw ar silff waelod yr oergell
  • Peidio â golchi cyw iâr amrwd, gan fod hyn yn tasgu germau
  • Golchi popeth sydd wedi dod i gysylltiad â chyw iâr amrwd â sebon a dŵr poeth – eich dwylo a’ch offer
  • Gwneud yn siŵr bod cyw iâr wedi’i goginio’n drylwyr, gan sicrhau nad oes unrhyw gig pinc, ei fod yn stemio’n boeth a bod y suddion yn rhedeg yn glir

I gael rhagor o wybodaeth, ewch i www.food.gov.uk/chickenchallenge a chlicio ar ‘Cymraeg’

Dweud eich dweud