Popty Mair

Y diweddaraf mewn cyfres o astudiaethau achos gan Fforch i Fforc sy’n edrych ar farchnadoedd ffermwyr, siopau fferm a’u cynhyrchwyr. Popty Mair sy’n cael ein sylw nesaf…

Y diweddaraf mewn cyfres o astudiaethau achos gan Fforch i Fforc
Rick a Maggie Coldman
sy’n edrych ar farchnadoedd ffermwyr, siopau fferm a’u cynhyrchwyr. Popty Mair sy’n cael ein sylw nesaf…

Ar ôl gweithio mewn popty yn yr 1970au ac yn ddiweddarach yn Llanymddyfri, penderfynodd Rick Coldman ailafael yn ei sgiliau pobi pan fu’n rhaid iddo ddechrau gofalu am eu merch, Mair. Mae Rick a Maggie Coldman bellach yn rhedeg busnes pobi ifanc, Popty Mair, o’u ffermdy deuluol yng Nghwm Duad, Sir Gaerfyrddin ac wedi bod yn cynhyrchu bara burum a bara surdoes organig dros y flwyddyn ddiwethaf.

Credir mai ffwrn coed-tân, cadw’i wres Popty Mair yw’r unig un yn y wlad. Mae Rick yn tanio’r ffwrn ddau ddiwrnod cyn ‘diwrnod pobi’ i sicrhau bod y ffwrn yn cyrraedd ei gwres cyn crafu’r lludw poeth wrth i’r toes fynd mewn i bobi. Bu Rick yn pori trwy nifer o hen lyfrau coginio i ddod o hyd i ryseitiau dilys fyddai’n addas i’w ffwrn coed-tân traddodiadol ac yn rhoi blas go iawn ar yr un pryd.

Yn ôl Rick, “Y cynhwysyn pwysicaf wrth wneud bara yw amser. Cyn pobi, mae’r toes yn cael ei aeddfedu’n araf, am 6 – 30 awr, sy’n datblygu’r blas ac yn sicrhau ei fod yn fwy treuliadwy. Rydym yn gwneud bara drwy hen ddulliau traddodiadol gan ddefnyddio’r cynhwysion crai angenrheidiol yn unig.”

Mae’r popty’n cynhyrchu amrywiaeth o fara gan gynnwys eu bara bythynnwr wedi’i eplesu’n naturiol. Mae’r blawd gwenith cyflawn a ddefnyddir mewn rhai mathau o’u bara yn dod o Felin Ganol yn Llanrhystud.

Yn ogystal â sefydlu rownd fara i gartrefi lleol, mae Rick a Maggie hefyd yn mynd â’r bara i farchnadoedd ffermwyr Aberystwyth ac Abergwaun. Yn ôl Maggie, “Wythnos diwethaf oedd ein hymweliad cyntaf â Marchnad Ffermwyr Aberystwyth ac fe lwyddon ni i werthu pob torth surdoes – roeddent yn boblogaidd iawn gyda’r cwsmeriaid.”

Mae’r pâr hefyd wedi cynnal penwythnosau pobi yn y popty ar gyfer pobl sy’n hoffi pobi adref ac maent yn awyddus i rannu’u gwybodaeth gyda phobl sy’n dechrau pobi drwy gychwyn cyrsiau yng Nghwm Duad yn ystod y flwyddyn nesaf.

Yn drist iawn, bu farw Mair dros y Nadolig ond mae ei henw’n parhau yn y popty y mae ei rhieni’n ei redeg.

Dweud eich dweud