Y Cwmni Jam Bach

Y diweddaraf mewn cyfres o astudiaethau achos gan Fforch i Fforc sy’n edrych ar farchnadoedd ffermwyr, siopau fferm a’u cynhyrchwyr. ‘The Little Jam Company’ sy’n cael ein sylw ar hyn o bryd…


Sarah Driver
Y diweddaraf mewn cyfres o astudiaethau achos gan Fforch i Fforc sy’n edrych ar farchnadoedd ffermwyr, siopau fferm a’u cynhyrchwyr. ‘The Little Jam Company’ sy’n cael ein sylw ar hyn o bryd…

Doedd Sarah Driver, o Faesyfed, erioed wedi gwneud jam cyn y diwrnod penderfynodd roi cynnig arni i wneud defnydd o holl ffrwythau oedd yn weddill o’i gardd yn 2008. Bellach mae wedi datblygu busnes, The Little Jam Company, ac yn cynhyrchu 1,000 jars yr wythnos.

Oddi ar ei harbrofion cyntaf yn y gegin, mae Sarah wedi llunio amrywiaeth o ryseitiau am jam, catwad, marmalêd, cyffeithiau a finegr ffrwythau. Bellach mae hi’n gwerthu ei chynhyrchion mewn siopau lleol a marchnadoedd ffermwyr yng nghanolbarth Cymru gan gynnwys marchnad Maesyfed.

Dros y gaeaf mi blannodd Sarah gannoedd o berthi ffrwythau ar dir ei chymydog, fel bod mwy o’r ffrwythau y mae hi’n eu defnyddio yn tyfu’n agos at ei chartref, gan fod defnyddio cynnyrch lleol a lleihau milltiroedd bwyd lle bod modd yn ethos bwysig o’r busnes.

Aros gyda’r hen ffefrynnau traddodiadol a chynhwysion o’r safon uchaf yw ei chyfrinach, meddal hi. “Dim ond siwgr a ffrwythau da fydda’ i’n eu defnyddio – mae’r cyfan yn bur ac yn syml iawn”.

Ar hyn o bryd, busnes un-ferch yw’r Little Jam Company ond mae ei phartner, Matthew Keeling yn helpu trwy olchi llestri a gludo’r labeli ar y jariau a chynnal gwefan y cwmni. Ond Sarah sy’n cyfrannu’r ymdrech fwyaf: “Rwyf wedi gwneud 1,000 o jariau mewn pum diwrnod, ond mae hynny’n waith caled iawn.”

Os yw ei chynlluniau ar gyfer y Little Jam Company yn dwyn ffrwyth, gobaith Sarah yw y gall ddod yn fusnes teulu go iawn. Mae ganddi bump o blant rhwng pedair ac 20 oed, ac fe hoffai gyflogi’r plant yn y dyfodol.

Dweud eich dweud