Ymgyrch yn dadorchuddio pencapwr organig

Canolfan Organig Cymru wedi dewis pum “Pencampwr”


Sophie Durnan, sy’n rhedeg Gardd Fasnachol Riverside yn Y Bont-faen
Mae ffermwr llaeth cydweithredol, cynhyrchydd cig oen a chig eidion, arbenigwr dofednod, pen-cogydd ethegol a garddwr masnachol wedi ymuno â’i gilydd i ledaenu’r gair am fuddion bwyd a ffermio organig fel rhan o ymgyrch newydd.

Mewn amser o ymwybyddiaeth gryfach ymysg cwsmeriaid, mae ymchwil a gafodd ei gyhoeddi yr wythnos ddiwethaf yn awgrymu bod 8 allan o 10 defnyddiwr yn y DU eisiau gwybod o le mae’u cynnyrch cig a llaeth yn dod.

Mae Canolfan Organig Cymru wedi dewis pum “Pencampwr” ac wedi’u gwahodd i rannu eu straeon er mwyn ysbrydoli siopwyr Cymreig i ddarganfod mwy am fwyd organig.

“Mae yna rhai enghreifftiau gwych o gynhyrchwyr, manwerthwyr, pen-cogyddion a pherchnogion tai bwyta ar hyd a lled Cymru sydd wedi mabwysiadu egwyddorion bwyd a ffermio organig,” meddai Neil Pearson o Ganolfan Organig Cymru.

“Mae’r fenter hon yn ffordd i gydnabod hyn, ac ar yr un pryd, yn egluro’r gwahaniaethau pwysig, go iawn i ddefnyddwyr ynglŷn â chynhyrchu bwyd organig a’r buddion sydd yn mynd gyda nhw.”

Straeon, fideo a blogiau

Mae pob un o’r pum Pencampwr yn cynrychioli rhannau gwahanol o’r diwydiant bwyd yng Nghymru – cig coch, llaeth, ffermio dofednod, garddwriaeth a’r fasnach arlwyo – ac mae ganddyn nhw i gyd wahanol straeon a rhesymau pam y maen nhw’n cefnogi egwyddorion ffermio organig.

Dros y chwe mis nesaf, bydd yr ymgyrch yn datgelu ychydig mwy am pob un o’r unigolion drwy gyfuniad o straeon o’u ffermydd, eu dyddiaduron fideo a’u blogiau, a hyd yn oed, eu hoff ryseitiau organig.

Bydd Sophie Durnan, sy’n rhedeg Gardd Fasnachol Riverside yn Y Bont-faen, yn pleidio achos buddion garddwriaeth organig. Cymerodd yr awenau yn yr ardd fasnachol 5-erw sy’n cael ei ffermio’n organig yn 2011 ac mae hi’n cyflenwi llysiau organig ar gyfer siopau deli a thai bwyta lleol, yn ogystal ag oddeutu 50 o gwsmeriaid rheolaidd i’r cynllun blwch.

I Sophie, natur gynaliadwy ffermio organig sy’n bwysig iddi.

Dywedodd, “Fel un 18 oed mi wnes i fynd i uwchgyfarfod byd yn Johannesburg a chael gweld arweinwyr byd yn dadlau polisi amaethyddol a gwnaeth hynny fy nghymell ar fy nhaith gynaliadwyedd. Dw i’n dod o deulu o artistiaid a threuliais fy mhlentyndod eisiau bod yn ffermwr, yn awr dw i’n byw’r freuddwyd, ond gallaf ddweud i sicrwydd ei fod yn waith llawer caletach nag a feddyliais.”

“Mae gan ein cwsmeriaid rheolaidd y sicrwydd sy’n mynd efo egwyddorion organig ffermio. I’r bwytai rydym yn eu cyflenwi, mae gwybod y gallan nhw roi addewid cadarn i’w cwsmeriaid bod eu bwyd yn dod o ffynhonnell leol a chynaliadwy.”

Digwyddiadau

Mae gan Ganolgan Organig Cymru, sydd wedi cefnogi cynhyrchwyr organig yng Nghymru ers dros 10 mlynedd, dudalennau pwrpasol ar ei dudalen Facebook am y Pencampwyr, a fydd yn ymddangos yn ogystal mewn digwyddiadau fel Sioe Frenhinol Cymru ym mis Gorffennaf a Gŵyl Fwyd y Fenni ym mis Medi.

“Rydym ni’n gwybod bod cymhelliad pobl dros ddewis organig yn gallu bod yn wahanol iawn” meddai Neil Pearson.

“I rai pobl blas ac ansawdd sy’n bwysig, i bobl eraill tarddiad a’r hyder ynghylch lle mae’r bwyd wedi dod a sut y mae wedi cael ei gynhyrchu sy’n bwysig. I’r Pencampwyr eu hunain, un o’r egwyddorion allweddol y maen nhw i gyd yn ei rannu yw’r angen i leihau’r effaith y gall cynhyrchu bwyd ei gael ar yr amgylchedd.”

Cadarnhaol

Er gwaethaf yr adroddiad diweddaraf ar y farchnad oddi wrth Gymdeithas y Pridd, sy’n dangos gostyngiad o 1.5% mewn gwerthiant organig tebyg wrth debyg ar draws y DU, mae yna nifer o dueddau cadarnhaol yn y sector organig Cymreig.

Datgelodd Arolwg Cynhyrchwyr Organig Cymru bod galw cryf am gig organig, gyda gwerthiant cig eidion i fyny 32% a chig oen [parod ar gyfer y farchnad] i fyny 69%, yn ogystal â thyfiant o 10.6% yng ngwerthiant llaeth organig. Tra bod y ffigyrau hyn, a gafodd hwb gan nifer o ffermydd Cymreig yn cwblhau eu hardystiad organig yn 2011-12, yn galonogol, mae pryder y bydd y cyfuniad o bwysau ar brisiau bwydydd organig a newidiadau i daliadau cefnogi ar gyfer ffermwyr organig yn gorfodi llawer o gynhyrchwyr organig Cymru i ddychwelyd i gynhyrchu anorganig dros yn ystod yr ychydig flynyddoedd nesaf.

Yn ogystal, mae Arolwg Cynhyrchwyr Organig Cymru wedi amlygu’r tyfiant mewn gwerthiant uniongyrchol yn ystod 2012, gyda bron i draean (28%) o gynhyrchwyr sy’n gwerthu’n uniongyrchol i’r cyhoedd yn profi cynnydd mewn gwerthiant, tra’r oedd 55% yn adrodd nad oedd newid arwyddocaol wedi digwydd.

Mae cig (48%) a llysiau (29%) yn parhau i reoli’r farchnad gwerthiant uniongyrchol, gyda mwy na hanner (54%) o’r cynhyrchwyr sy’n gwerthu’n uniongyrchol yn dibynnu ar gwsmeriaid unigol am dros 80% o’u trosiant.

Mae’r arolwg diweddaraf, y tro hwn yn mesur agweddau siopwyr yng Nghymru tuag at fwyd organig, wedi darganfod bod bron i dri-chwarter (74%) o bobl yn cytuno bod ffermio organig yn golygu gwell safonau lles anifeiliaid, tra bod oddeutu dwy ran o dair (64%) yn meddwl bod cynnyrch organig yn iachach i chi.

Roedd yr astudiaeth hon, a oedd yn seiliedig ar sampl gynrychioliadol o 700 o’r siopwyr bwyd pennaf yng Nghymru, wedi’i cynnal gan Beaufort Research ym mis Mai 2013.

Dweud eich dweud