Mae asiantaeth heddlu Europol yn ymchwilio i 425 o achosion o drefnu canlyniadau gemau pêl-droed ledled Ewrop.

Mae 680 o achosion yn cael eu hymchwilio ledled y byd a hwn yw’r ymchwiliad mwyaf o’i fath yn hanes y gamp. Mae’r ymchwiliad yn canolbwyntio ar ymddygiad swyddogion clybiau, chwaraewyr a throseddwyr.

Mae yna le i gredu bod un ornest Cynghrair y Pencampwyr a gafodd ei chwarae yn Lloegr o dan y chwyddwydr, a bod hon yn un o 380 o gemau sy’n cael eu hymchwilio.

Mae canlyniadau rhai o gemau Cwpan y Byd hefyd yn cael eu hamau o fod wedi cael eu trefnu ymlaen llaw.

Cred yr awdurdodau mai grŵp o droseddwyr o Asia sy’n gyfrifol am reoli’r gweithredoedd anghyfreithlon. Mae yna le i gredu hefyd fod £1.73m wedi cael ei wario ar drefnu gornestau yn Yr Almaen.

Mae ymchwiliad Europol yn canolbwyntio ar 15 gwlad, ac mae 50 o bobol wedi cael eu harestio hyd yn hyn.

Mae’r corff rheoli UEFA wedi dweud y byddan nhw’n cydymffurfio â’r ymchwiliad.