Mae gafr wedi ymddangos yn y llys yn Awstralia, wedi ei chyhuddo o ddifrodi gwely blodau.
Ond dywedodd y barnwr yn Sydney nad oedd modd erlyn yr afr na’r perchennog.
Ymddangosodd Gary’r afr a’i berchennog yn y llys wedi iddo benderfynu bwyta blodau y tu allan i amgueddfa yn y ddinas.
Cafodd y perchennog, y digrifwr Jimbo Bazoobi ddirwy o 440 o ddoleri ar y pryd gan yr heddlu.
Roedd gan Gary ei gyfreithiwr ei hun i’w gynrychioli yn ystod y gwrandawiad.