Daniel Day-Lewis
Roedd y gantores Adele, yr actorion Daniel Day-Lewis ac Anne Hathaway a’r cyfarwyddwr Ben Affleck ymhlith yr enillwyr yn ystod seremoni wobrwyo’r Golden Globes yn Los Angeles neithiwr.

Cafodd Adele gydnabyddiaeth am ei chân ‘Skyfall’, sy’n gân thema’r ffilm James Bond ddiweddaraf.

Enillodd Ben Affleck ddwy wobr, y naill am gyfarwyddo’r ffilm Argo, a’r llall am fod y Cyfarwyddwr Gorau.

Curodd Argo ffilm Steven Spielberg, ‘Lincoln’, y ffefryn i ennill y wobr.

Les Miserables gafodd ei henwi’n sioe gerdd neu gomedi orau.

Hugh Jackman ddaeth i’r brig yng nghystadleuaeth yr actor sioe gerdd neu gomedi gorau, tra bod Anne Hathaway wedi’i henwi’n actores gynorthwyol orau.

Daniel Day-Lewis enillodd wobr yr Actor Gorau am ei ran yn y ffilm ‘Lincoln’, a gafodd ei henwebu am saith o wobrau.

Roedd Jessica Chastain (Zero Dark Thirty), Jennifer Lawrence (Silver Linings Playbook) a Christoph Waltz (Django Unchained) ymhlith yr enillwyr eraill.

Mychael Danna (Life of Pi) gipiodd y wobr am ysgrifennu’r gerddoriaeth orau.