Mae chwech athrawes ac un dyn wedi cael eu saethu’n farw mewn ymosodiad ar gerbyd yng ngogledd-orllewin Pacistan.

Yn ôl heddlu lleol yn nhref Swabi roedd y cerbyd yn cario athrawon oedd yn perthyn i fudiad dyngarol.

Nid oes unrhyw grŵp wedi hawlio cyfrifoldeb am yr ymosodiad hyd yma.

Mae rhai milwriaethwyr yn nhalaith Khyber Pakhtunkhwa wedi bod yn gwrthwynebu rhoi addysg i ferched ac wedi bod yn ymosod ar ferched sy’n fyfyrwyr.