Barack Obama - munud o dawelwch
Fe fydd munud o dawelwch yn cael ei gynnal yn yr Unol Daleithiau heno i gofio am y 26 o bobol a phlant a gafodd eu llofruddio yn lladdfa Connecticut.
Ond mae ffigurau hefyd yn dangos fod mwy a mwy o bobol wedi bod yn prynu gynnau pwerus, gan ddisgwyl y bydd cyfreithiau newydd yn cyfyngu ar y rheiny.
Mae cynnydd mewn gwerthiant yn digwydd ar ôl pob lladdfa o’r fath ond, yn ôl ffigurau o nifer o daleithiau, mae mwy nag erioed o ynnau wedi cael eu prynu yn ystod yr wythnos ddiwetha’.
Ac mae’n ymddangos fod rhieni hefyd yn prynu bagiau ysgol sy’n gallu gwrthsefyll bwledi.
Fe gafodd 20 o blant eu lladd pan aeth saethwr yn wyllt yn ysgol gynradd Sandy Hook yn nhref Newton.
Fe fydd yr Arlywydd Barack Obama yn cadw at y munud o dawelwch, ond ym mhreifatrwydd y Tŷ Gwyn.