Mae Barack Obama wedi addo cyflwyno cynlluniau i dynhau’r rheolau ynglŷn â gynnau erbyn mis Ionawr, gan ddatgan ei bod yn hen bryd gweithredu yn dilyn y lladdfa mewn ysgol gynradd yn Connecticut.

Cyn i’r cynlluniau gael eu drafftio, mae’r Arlywydd yn pwyso ar wleidyddion i ail-gyflwyno gwaharddiad ar ynnau pwerus.

“Dyw’r ffaith fod y broblem yma’n un  cymhleth ddim yn esgus i wneud dim byd,” meddai Barack Obama.

Mae’r wlad yn dal i geisio dod i delerau a marwolaeth 20 o blant a chwe oedolyn yn Ysgol Sandy Hook yn Newtown, Connecticut ddydd Gwener ddiwethaf.