Mae un o bwyllgorau Cynulliad Cenedlaethol Ffrainc ar hyn o bryd yn trafod yr angen i newid Cyfansoddiad Ffrainc er mwyn cadarnhau siarter Ewropeaidd sy’n diogelu ieithoedd lleiafrifoedd.

Yn ôl Llywydd Comisiwn Cyfraith Ffrainc, yr aelod cynulliad o Lydaw Jean-Jacques Urvoas, “rydym yn gobeithio argyhoeddi’n cyd-aelodau fod yr ieithoedd rhanbarthol yn gyfoeth sydd yn ychwanegu at fywyd eu tiriogaethau yn hytrach nag yn bygwth undod y Weriniaeth.”

Dywedodd fod cael mwyafrif aelodau’r Cynulliad Cenedlaethol i bleidleisio o blaid unrhyw bwnc yn anodd ond ei fod yn bwriadu gweithio tuag at hynny.

Roedd Ffrainc wedi llofnodi 39 o gymalau Siarter Ewropeaidd yr Ieithoedd Rhanbarthol a Lleiafrifol ym mis Mai 1999, ond fis yn ddiweddarach dywedodd Cyngor Cyfansoddiadol y wlad y byddai cadarnhau’r siarter yn “groes i’r Cyfansoddiad ac i undod y Weriniaeth.”

Er mwyn cadarnhau’r siarter byddai’n rhaid i’r Cynulliad newid y Cyfansoddiad meddai’r cyngor bryd hynny.

Yn 2008 cafodd cymal ei ychwanegu at Gyfansoddiad Ffrainc sy’n nodi fod “ieithoedd rhanbarthol yn rhan o dreftadaeth Ffrainc” ac mae ymgyrchwyr ieithoedd megis Llydaweg, Basgeg ac Ocsitaneg yn gobeithio fod hynny’n gam tuag at gryfhau statws yr ieithoedd rhanbarthol yn Ffrainc.

Yn draddodiadol mae Paris wedi ystyried yr ieithoedd llai fel rhwystr i’r broses o greu un Wladwriaeth unedig ac “anwahanadwy” yn Ffrainc.