Ravi Shankar gyda George Harrison
Mae’r cerddor Ravi Shankar o India, oedd yn enwog am chwarae’r sitar, wedi marw yn 92 oed.

Dywedodd llefarydd ar ran Prif Weinidog India bod Shankar yn “drysor cenedlaethol”.

Daeth i amlygrwydd rhyngwladol oherwydd ei gysylltiad gyda’r Beatles yn y 60au. Roedd hefyd wedi cydweithio gyda nifer o gerddorion eraill o’r byd clasurol, jazz a roc.

Roedd yn dad i’r gantores Norah Jones.

Bu farw mewn ysbyty yn yr Unol Daleithiau ar ôl cael llawdriniaeth.