Arweinydd Gogledd Corea Kim Jong Un
Mae Gogledd Corea wedi cael ei beirniadu heddiw am lwyddo i danio roced i’r awyr dros nos.
Dywedodd yr Ysgrifennydd Tramor William Hague y byddai’n dwysau’r tensiynau yn y rhanbarth.
Cafodd y roced ei danio’r bore ma, yn ôl swyddogion yn Ne Corea.
Mae Gogledd Corea yn dweud bod y roced yn cario lloeren, ac yn gwadu mai profi taflegrau oedden nhw.
Mae Japan wedi galw am gyfarfod brys gyda Chyngor Diogelwch y Cenhedloedd Unedig.