Bob Dylan a Barack Obama
Mae canwr gwerin enwoca’ America wedi darogan y bydd Barack Obama yn ennill y ras i’r Ty Gwyn – a hynny o bell, bell ffordd.

Fe wnaeth Bob Dylan ei sylwadau proffwydol neithiwr, hanner ffordd trwy ganu’r gân Blowin’ In The Wind mewn cyngerdd yn nhalaith Wisconsin.

Roedd yn siarad gyda chynulleidfa Madison wrth ddod â’i gyngerdd i’w derfyn – oriau’n unig cyn i Barack Obama annerch rali ben bore yn yr un ddinas gyda hen rocar arall, Bruce Springsteen.

“Fe drion ni chwarae’n dda heno, gan fod yr arlywydd yma,” meddai Bob Dylan, cyn ychwanegu ei fod yn credu y bydd Barack Obama yn ennill y dydd yn 2012. Mae’r polau piniwn yn awgrymu y bydd yn un o’r etholiadau arlywyddol agosa gyda’r Gweriniaethwr Mitt Romney ychydig y tu ol i Barack Obama.

“Peidiwch â chredu’r cyfryngau,” meddai wedyn. “Dw i’n meddwl y bydd hi’n fuddugoliaeth glir.”