Ynys Cyprus
Mae tri o dwristiaid o’r DU yn cael eu cadw yn y ddalfa ynglŷn â llofruddiaeth milwr ifanc o Brydain a gafodd ei drywanu i farwolaeth yn Cyprus.

Cafodd y milwr, sydd wedi ei enwi’n lleol fel David Lee Collins, 19, ei ladd yn dilyn ffrae mewn clwb nos yn Ayia Napa.

Yn ôl adroddiadau roedd David Collins yn gwasanaethu gyda’r Ffiwsilwyr Brenhinol yn safle’r fyddin yn ardal Dhekelia ar yr ynys.