Arlywydd Syria, Bashar Assad
Mae gwrthryfelwyr yn Syria wedi cipio maes olew yn nwyrain y wlad ar ôl tri diwrnod o ymladd ffyrnig yn erbyn lluoedd y llywodraeth.

Dywedodd llefarydd ar ran ymgyrchwyr hawliau dynol yn y wlad fod y gwrthryfelwyr wedi llwyddo i drechu’r milwyr yn y maes olew yn nhalaith Deir el-Zour gerllaw’r ffin ag Irac yn gynnar heddiw.

Ychwanegodd fod y gwrthryfelwyr wedi cipio amryw o’r 40 o filwyr oedd yn gwarchod y maes olew.

Roedd olew’n ffynhonnell bwysig o incwm i gyfundrefn yr arlywydd Ashar Assad cyn i’r Undeb Ewropeaidd a’r Unol Daleithiau osod gwaharddiadau ar allforion o Syria – er mwyn cosbi’r llywodraeth am ei herchyllterau yn erbyn ei phobl ei hun.

“Roedd y maes olew yma’n cael ei ddefnyddio ar gyfer tanwydd i danciau’r llywodraeth a’n nod ni oedd rhwystro’r cyflenwadau hyn,” meddai Omar Abu Leila, un o’r gwrthryfelwyr lleol.

Mae dros 36,000 o bobl wedi cael eu lladd yn Syria ers cychwyn y gwrthryfel ym mis Mawrth y llynedd.