Efrog Newydd yn anterth y storm ddydd Llun
Am y tro cyntaf ers pum niwrnod roedd y goleuadau’n ôl ymlaen yn y rhan fwyaf o adeiladau Manhattan neithiwr.

Mae dros 90 o bobl yn America wedi cael eu lladd gan Storm Sandy bellach, a hynny mewn 10 o wahanol daleithiau’r wlad. Roedd o leiaf 69 arall wedi eu lladd wrth iddi ysgubo trwy ynysoedd y Caribî.

Yn ei neges wythnosol olaf cyn yr etholiad, dywedodd yr Arlywydd Barack Obama fod llawer o waith i’w wneud mewn cymunedau sydd wedi cael eu difrodi gan y strom.

Addawodd y bydd America yno iddyn nhw – faint bynnag y bydd yn ei gymryd i adfer ac ailadeiladu ar ôl y difrod.

Dywedodd ei fod wedi gorchymyn ei dîm i beidio â gadael i fiwrocratiaeth sefyll yn ffordd y gwaith o ddatrys problemau, yn enwedig o safbwynt cael y cyflenwad trydan yn ôl.

Canslo marathon

Yn sgil yr holl ddifrod mae marathon dinas Efrog Newydd a oedd i fod i gael ei chynnal yfory, wedi cael ei chanslo.

Ar y dechrau roedd y Maer, Michael Bloomberg, wedi dweud y byddai’n ras yn cael ei chynnal er gwaetha’r cyfan, ond ildiodd i bwysau ar ôl cael ei feirniadu gan bobl a oedd yn dadlau y byddai hynny’n tynnu adnoddau oddi wrth y gwaith adfer.

Roedd y ras i fod i gychwyn  yn Staten Island, un o’r ardaloedd a gafodd eu taro waethaf gan y storm.

Mae prinder petrol yn dal i fod yn broblem ddifrifol yn y ddinas, gyda modurwyr yn gorfod ciwio am oriau.

Amcangyfrifir y gallai cost difrod Storm Sandy fod cymaint â £31 biliwn – yr ail fwyaf costus yn hanes y wlad ar ôl Corwynt Katrina saith mlynedd yn ôl.