Baedd gwyllt
Mae pedwar o bobl, gan gynnwys plismon, wedi cael eu hanafu mewn ymosodiad gan faedd gwyllt ym Merlin.

Cafodd yr anifail, oedd yn pwyso 265 pwys, ei saethu’n farw.

Dywed heddlu’r Almaen bod y baedd wedi brathu dyn 74 oed ar ei gefn a’i goes, ac wedi taro dynes 74 oed i’r llawr, gan anafu ei chlun, yn ardal Charlottenburg.

Roedd hefyd wedi brathu dynes 24 oed a lwyddodd i ddringo ar ben car er mwyn dianc rhag yr anifail.

Mae’r tri wedi cael triniaeth yn yr ysbyty.

Roedd plismon oedd wedi ceisio helpu hefyd wedi cael ei anafu cyn iddo saethu’r baedd yn farw.

Mae baeddod gwyllt yn eithaf cyffredin mewn ardaloedd maestrefol ym Merlin, ond anaml iawn maen nhw’n achosi problemau, ar wahân i gloddio mewn gerddi.