Manhattan, Efrog Newydd
Mae o leiaf 13 o bobl wedi cael eu lladd a miliynau yn yr Unol Daleithiau heb gyflenwad trydan ar ôl i Gorwynt Sandy daro arfordir New Jersey dros nos.

Roedd o leiaf 5.7 miliwn o bobl heb gyflenwad trydan yn nwyrain y wlad a dywedodd cwmni ynni mwyaf Efrog Newydd bod rhannau o Manhattan mewn tywyllwch oherwydd y storm, gyda 250,000 heb drydan wrth i ddŵr lifo i mewn i’r ddinas.

Bu farw’r 13 yn New Jersey, Efrog Newydd, Gorllewin Virginia, Pennsylvania a Connecticut.