Y cylchgrawn Newsweek
Mae’r cylchgrawn newyddion yn America, Newsweek, yn bwriadu rhoi’r gorau i argraffu’r cylchgrawn ar ôl 80 mlynedd, gan ganolbwyntio ar fersiwn ar-lein yn unig o ddechrau 2013.

Mae disgwyl i swyddi ddiflannu yn sgil y penderfyniad.

Fe fydd rhifyn olaf Newsweek yn cael ei argraffu ar 31 Rhagfyr.

Roedd Barry Diller, pennaeth y cwmni sy’n berchen Newsweek, wedi cyhoeddi ym mis Gorffennaf eu bod nhw’n ystyried dyfodol y cylchgrawn wythnosol.

Daeth y cyhoeddiad gan Tina Brown, golygydd a sylfaenydd The Newsweek Daily Beast Co, ar wefan The Daily Beast, heddiw. Dywedodd y bydd staff yn colli eu swyddi ond does dim ffigwr penodol ar hyn o bryd.

Newsweek Global fydd enw’r cylchgrawn ar-lein a bydd yn rhaid talu am danysgrifiad.