Mae arbenigwyr yn honni y bydd prawf ar ymenyddiau babanod yn dangos a fyddan nhw’n droseddwyr neu’n seicopathiaid yn y dyfodol.

Mae’n bosib gweld nodweddion sy’n achosi ymddygiad gwrthgymdeithasol neu droseddol yn ymenyddiau babanod chwe mis oed, yn ôl y seicolegydd Dr Adrian Raine.

Roedd un abnormaledd penodol yn effeithio ar “graidd emosiynol” y system limbig, meddai.

Roedd yr abnormaledd yn amlwg mewn babanod chwe mis oed oedd yn mynd yn eu blaenau i droseddu ac ymddwyn mewn modd gwrthgymdeithasol.

Roedd plant tair oed oedd ag amygdala nad oedd yn gweithio’n iawn yn fwy tebygol o drosedd 20 mlynedd yn ddiweddarach, yn ôl Adrian Raine.

Mae Adrian Raine yn gyn-wyddonydd â’r Swyddfa Gartref a bellach yn gweithio ym Mhrifysgol Pennsylvania yn yr Unol Daleithiau.

“Mae’r drwg yn y caws yno o oed cynnar,” meddai.

“Cyn bo hir fe fydd yn bosib i ni ragweld pa unigolion fydd yn droseddwyr ar ôl iddyn nhw gyrraedd oedolaeth.

“Bydd rhaid penderfynu a ydyn ni am ymyrryd o oed cynnar er nad oes modd rhagweld i sicrwydd a fydd person yn troseddu.

“Mae’n syml iawn – ymennydd drwg, ymddygiad drwg.”