Christopher Stevens
Mae llysgennad yr Unol Daleithiau yn Libya wedi cael ei ladd mewn ymosodiad ar y llysgenhadaeth yn Benghazi, yn ôl adroddiadau.

Mae lle i gredu bod Christopher Stevens yn un o bedwar o Americanwyr a gafodd eu lladd fel rhan o brotest yn erbyn ffilm o America sydd yn pardduo’r proffwyd Mohamed.

Cafodd marwolaeth un person ei chadarnhau gan adran wladol yr Unol Daleithiau,ond dydy enw’r unigolyn ddim wedi cael ei gyhoeddi.

Yn yr ymosodiad saethodd dynion arfog at adeiladau a gollwng bomiau ynddyn nhw.

Mae’n debyg i Christopher Stevens gael ei fygu i farwolaeth.

Mae Ysgrifennydd Gwladol yr Unol Daleithiau, Hillary Clinton wedi beirniadu “ymddygiad mileinig” y sawl oedd yn gyfrifol.

Mae yna adroddiadau bod grŵp Ansar al-Shari wedi cyfrannu at yr ymosodiad, ond maen nhw’n gwadu eu bod nhw’n gyfrifol.

Dywedodd Hillary Clinton mewn datganiad: “Mae’r Unol Daleithiau yn gresynu unrhyw ymdrech fwriadol i bardduo credoau crefyddol pobol eraill.

“Ond gadewch i mi fod yn glir. Does yna fyth gyfiawnhad dros weithredoedd treisgar o’r math yma.”