Mae Cristnoges ifanc wedi ei rhyddhau o’r carchar ym Mhacistan ar ôl cael ei chyhuddo o losgi tudalennau o’r Koran.

Cafodd ei rhyddhau ddiwrnod wedi ei farnwr ddweud y gellid ei gadael yn rhydd ar fechnïaeth.

Dywedodd swyddog carchar Rawalpindi, ger y brifddinas Islamabad, bod y ferch wedi ei rhyddhau prynhawn ma.

Roedd hi wedi ei chadw dan glo am dair wythnos ar ôl i gymdogion ei chyhuddo o dorri rheolau llym y wlad yn erbyn cabledd.

Aethpwyd a hi o’r carchar mewn cerbyd arfog, a’i chludo oddi yno mewn hofrennydd. Roedd cynfas dros ei phen i warchod ei hunaniaeth.