Mitt Romney
Bydd Mitt Romney yn cael ei enwebu’n swyddogol fel ymgeisydd y Blaid Weriniaethol i herio’r Arlywydd  Barack Obama yn yr Unol Daleithiau.

Fe fydd confensiwn y blaid yn cael ei gynnal yn Tampa, Fflorida heddiw. Bu’n rhaid gohirio’r digwyddiad ddoe oherwydd storm drofannol Isaac .

Fe fydd yn gyfle i Mitt Romney gyflwyno ei weledigaeth i filiynau o bobl a cheisio denu rhagor o bleidleiswyr sydd heb benderfynu sut maen nhw am bleidleisio.

Yn y cyfamser mae’r Arlywydd Barack Obama wedi cyhoeddi stad o argyfwng yn Louisiana oherwydd pryderon y gallai’r storm droi’n gorwynt.

Roedd Corwynt Katrina wedi lladd 1,800 o bobl yn yr un lleoliad bron i saith mlynedd yn ôl.