Mitt Romney a'i wraig
Mae pryderon ymysg Gweriniaethwyr y gallai’r storm drofannol Isaac effeithio ar y gynhadledd a fydd yn enwi Mitt Romney yn ymgeisydd swyddogol y blaid.

Mae disgwyl y bydd y storm yn dechrau effeithio ar dde Florida ddydd Llun, cyn cyrraedd ardal Tampa lle y mae’r gynhadledd yn cael ei gynnal ddydd Mawrth.

Hyd yn oed os nad yw’r storm yn cyrraedd Tampa, mae pryder am y trefniadau diogelwch. Mae tua hanner y swyddogion diogelwch yn dod o rannau eraill o Florida, ac fe allen nhw orfod aros adref.

Dywedodd y Siryf David Gee o ardal Tampa nad oedden nhw’n gwybod eto beth oedd yn mynd i ddigwydd.

Roedd yn bosib na fyddai i rai ardaloedd anfon eu swyddogion os oedd rhaid iddyn nhw aros i ymdopi â sgil effeithiau’r storm mewn rhannau eraill o’r dalaith.

“Wrth i bethau newid, mae’n bosib y bydd rhaid iddyn nhw flaenoriaethu,” meddai.

Bydd angen i Romney gipio talaith Florida os oes ganddo obaith o ennill y Tŷ Gwyn o afael Barack Obama yn yr Etholiad Arlywyddol ym mis Tachwedd.