John Lennon
Mae’r dyn a saethodd John Lennon wedi methu yn ei ymgais i gael ei ryddhau o’r carchar.

Dyma oedd y seithfed tro i’r bwrdd parôl yn Efrog Newydd benderfynu peidio rhyddhau Mark Chapman, 57.

Cafodd John Lennon ei saethu’n farw gan Mark Chapman yn Efrog Newydd yn 1980, y tu allan i adeilad fflat y canwr a ddaeth i enwogrwydd fel aelod o’r Beatles.

Cafodd Chapman ei ddedfrydu i 20 mlynedd o garchar yn 1981 ar ôl pledio’n euog i lofruddiaeth ail radd, sef un na chafodd ei gynllunio o flaen llaw.

Yn y gwrandawiad ddoe dywedodd aelod o’r bwrdd parôl, Sally Thompson, y byddai rhyddhau Chapman yn tanseilio parch at y gyfraith ac yn dibrisio’r golled a achosodd ei weithred “ofnadwy, treisgar, oer a bwriadol.”

Ym mis Mai cafodd Chapman ei symud o garchar Attica yng ngorllewin Efrog Newydd i garchar uwch-ddiogel arall gerllaw, yn Wende, ac nid yw gwasanaeth carchardai’r Unol Daleithiau wedi datgelu’r rheswm am y symud.

Gall Mark Chapman wneud cais arall am barôl ymhen dwy flynedd.