Ffrwydrad yn Namascus ynghynt eleni (PA)
Mae gwrthryfelwyr yn Syria wedi hawlio mai byddin y wlad oedd targed ffrwydradau yn y brifddinas Damascus heddiw, nid canolfan y Cenhedloedd Unedig.

Yn ôl gwasanaeth newyddion Al Jazeera, roedd llefarydd ar ran y grŵp wedi eu ffonio nhw’n hawlio cyfrifoldeb ac yn awgrymu bod nifer o swyddogion milwrol wedi eu lladd.

Mae awdurdodau Syria wedi cydnabod bod tri o bobol wedi eu hanafu gan y gyfres o fomiau yn agos at bencadlys milwrol ond mae’r gwrthryfelwyr yn hawlio eu bod wedi targedu’r ardal am fod cyfarfod o uchelswyddogion yno.

Fe ddywedodd llefarydd ar ran Byddin Ryddid Syria y bydden nhw’n parhau gydag ymosodiadau o’r fath nes cyrraedd yr Arlywydd Assad ei hun.

Fe gafodd yr ymosodiadau eu condemnio gan Lywodraeth Syria.