Cyflafan yn Syria (Llun:PA)
Mae Iran yn gwneud mwy a mwy i hyfforddi ac arfogi un o fyddinoedd yr Arlywydd Assad yn Syria, yn ôl yr Unol Daleithiau.

Ond mae’r gwrthdaro rhyngwladol tros Syria hefyd wedi parhau gyda China’n cyhuddo rhai gwledydd o geisio tanseilio gwaith y cennad heddwch, Koffi Annan.

Nid dyma’r tro cynta’ i’r Unol Daleithiau gyhuddo Iran o ymyrryd.

“Mae’n beryglus, mae’n ychwanegu at y lladd sy’n digwydd yn Syria, ac mae’n cynnal llywodraeth sydd yn mynd i ddymchwel yn y pen draw,” meddai Ysgrifennydd Amddiffyn yr Unol Daleithiau, Leon Panetta.

Ond fe ddywedodd hefyd mai blaenoriaeth yr Unol Daleithiau ar hyn o bryd oedd rhoi cymorth dyngarol i bobol sy’n ffoi o Syria i’r Iorddonen neu Dwrci.

Oherwydd cryfder llu awyr Syria, doedd ceisio atal eu hawyrennau rhag hedfan ddim yn flaenoriaeth, meddai.

China’n cyhuddo

Yn China, mae papur dyddiol swyddogol wedi cyhuddo rhai gwledydd gorllewinol o geisio newid y gyfundrefn yn Syria, ac o geisio tanseilio gwaith y cyn-gennad heddwch Kofi Annan trwy drafod y posibilrwydd o wahardd hedfan dros rai ardaloedd.

“Mae hyn wedi dinistrio undod cyngor diogelwch y Cenhedloedd Unedig,” meddai China.