Y Stadiwm Olympaidd
Mae eithafwyr Islamaidd wedi cyhuddo dwy athletwraig o Dunisia o ymddwyn a gwisgo’n amhriodol yn ystod y Gemau Olympaidd yn Llundain.

Daw’r weithred yn dilyn dadleuon dros rôl crefydd a merched yn y wlad lle dechreuodd gwrthryfela’r Gwanwyn Arabaidd.

Galwodd radicaliaid ar rwydweithiau cymdeithasol i’r llywodraeth gymryd dinasyddiaeth Habiba Ghribi, y ferch gyntaf o Twnisia i hawlio medal, oddi arni oherwydd bod ei gwisg rhedeg yn rhy amlygus.

Fe enillodd hi’r fedal arian yn y ras ffos a pherth 3,000 metr.

Mae ymgyrch ar Facebook gan y grŵp eithafol, Ansar al Chariaa, hefyd wedi targedu’r nofiwr Oussama Mellouli am iddi yfed sudd cyn rasio yn ystod y mis sanctaidd Mwslimaidd, Ramadan.

Fe enillodd hi’r fedal aur yn y marathon 10 cilometr a’r efydd yn y ras dull nofio rhydd 1,500 metr.

Llywodraeth gymedrol Islamaidd sydd mewn grym yn Nhunisia, ond maen nhw’n wynebu bygythiadau cyson gan eithafwyr crefyddol.