Mae yna adroddiadau bod tri hunan-fomiwr wedi lladd o leiaf 35 o bobl yn ne orllewin Afghanistan.

Cafodd o leiaf 80 o bobl eu hanafu yn yr ymosodiad.

Daw’r ymosodiad diweddaraf lai na diwrnod ar ôl i wasanaethau diogelwch atal ymosodiad terfysgol ar lywodraeth y wlad yn y brifddinas, Kabul.