Mae parth yr ewro ar drothwy dirwasgiad dwbl, wedi iddi ddod i’r amlwg bod yr economi yno wedi crebachu 0.2% rhwng mis Ebrill a Mehefin.

Mae’r argyfwng dyled yn y wlad wedi lledaenu ymhellach dros y misoedd diwethaf, wrth i Sbaen a’r Eidal orfod talu’n ddrud i fenthyg arian.

Tyfodd economi’r Almaen 0.3%, ac fe arhosodd Ffrainc yn yr unfan, ond roedd y darlun ar draws y parth 17 gwlad yn un tywyllach.

Crebachodd economi’r Deyrnas Unedig 0.7% yn yr un cyfnod, ond oherwydd ei gallu i argraffu arian does dim yr un perygl y gallai orfod methdalu.

Crebachodd economi Gwlad Belg 0.6%, yr Eidal 0.7% a Portiwgal 1.2%.

Tyfodd economïau’r Iseldiroedd ac Awstria 0.2%.

Yn ystod yr un cyfnod tyfodd economi’r Unol Daleithiau 0.4%, a Japan 0.3%.

Dywedodd Martin van Vliet o ING Bank ei fod yn debygol iawn y bydd parth yr ewro yn syrthio i ddirwasgiad dwbl swyddogol yn y chwarter nesaf.

“Mae gogledd Ewrop yn parhau i osgoi dirwasgiad, ond mae de Ewrop mewn dirwasgiad dwfn,” meddai.