Damascus
Mae dau newyddiadurwr o Syria wedi eu lladd yn y brifddinas, yn ôl adroddiadau heddiw gan asiantaeth newyddion Sana y wlad.

Dywedodd Sana bod un o’u gohebwyr, Ali Abbas, wedi ei ladd yn ei gartref yn ardal Jdaidet Artouz.

Beiodd yr adroddiad “grŵp o derfysgwyr arfog,” sef enw arferol y weinyddiaeth am y gwrthryfelwyr.

Cafodd gohebydd arall, Bara’a Yusuf al-Bushi, ei ladd gan fom wrth ymchwilio i stori yn al-Tal, maestref ar gyrion Damascus.

Fe gafodd y ddau ohebydd eu lladd ddydd Sadwrn, yn ôl adroddiadau newyddion.

Mae gwrthwynebwyr y weinyddiaeth wedi ymosod ar y cyfryngau sawl gwaith ers dechrau’r gwrthryfel 17 mis yn erbyn yr Arlywydd Bashar Assad.

Mae ymgyrchwyr heddwch yn dweud bod 20,000 o bobol wedi eu lladd ers dechrau’r gwrthryfel ym mis Mawrth y llynedd.