Mae mwy na 250 o bobol wedi marw a 2,000 wedi eu hanafu ar ôl dau ddaeargryn yn Iran.
Mae delweddau a ddarlledwyd ar y teledu yn Iran yn dangos bod dwsinau o deuluoedd yn cysgu mewn parciau cyhoeddus.
Roedd rhaid yn crio ac eraill yn crynu yn y tywydd oer yn yr ardal fynyddig.
Digwyddodd y daeargrynfeydd yng ngogledd-orllewin Iran
Roedd y teledu hefyd yn dangos pobol yn cael eu symud ar stretsieri i ysbytai a chlinigau.
Roedd delweddau eraill yn dangos pobol wedi eu hanafu mewn gwelyau ysbytai.