Paul Ryan
Mae ymgeisydd y Gweriniaethwr yn etholiad arlywyddol yr Unol Daleithiau wedi dechrau ymgyrchu ar y cyd gyda’i ddewis i fod yn Ddirprwy Arlywydd, Paul Ryan.

Datgelodd Mitt Romney ddoe mai Paul Ryan oedd ei ddewis i gymryd ei le yn Arlywydd pe bai ryw anffawd yn ei daro yn dilyn buddugoliaeth dros yr Arlywydd Barack Obama ym mis Tachwedd.

Fe fyddwn nhw’n dechrau taith bedwar diwrnod drwy bedair talaith allweddol heddiw.

Mae Paul Ryan, 42, sy’n cynrychioli ardal gyngresol yn nhalaith Wisconsin, yn gryf o blaid torri diffyg ariannol yr Unol Daleithiau.

Mae’n ffafrio rhoi’r gorau i ariannu gofal iechyd yn uniongyrchol, ac yn hytrach rhoi’r arian yn syth i bobol 65 a hŷn iddyn nhw gael dewis pa gwmni preifat i fynd ato.

Mae’n cael ei ystyried yn fodd i Mitt Romney gysylltu â mudiad y Tea Party ar adain dde ei blaid, sydd o blaid gostwng trethi a thorri’n ôl ar wariant y llywodraeth.

Ond fe allai dewis Paul Ryan hefyd fod yn gur pen i Mitt Romney. Mae cynlluniau Paul Ryan i dorri triliynau mewn gwariant cyhoeddus yn ddadleuol iawn yn y wlad.

Serch hynny fe fydd yn fodd o sicrhau bod yr ymgyrch yn canolbwyntio ar yr economi, man gwan Barack Obama, sydd wedi llywyddu dros dwf arafach na’r disgwyl yn y wlad.

“Mae’r Arlywydd Obama yn rhan o’r broblem, a Mitt Romney yw’r ateb,” meddai Paul Ryan wrth gael ei ddatgelu ddoe.

Dywedodd ymgyrch Barack Obama bod Paul Ryan o blaid torri trethi miliwnyddion, wrth dorri’n ôl ar gyllidebau addysg ac iechyd.