Mae disgwyl i bris bara gynyddu’n gyflym ar ôl sychdwr mawr yn yr Unol Daleithiau dros yr haf.

Mae diffyg glaw wedi difetha cnydau’r wlad, gan arwain at gynnydd mawr yn y galw am wenith.

Yn ôl Grocer Magazine mae disgwyl i brisiau godi traean ym Mhrydain a Ffrainc.

“Mae maint y cynnydd mewn pris gwenith yn golygu y bydd rhaid i gwsmeriaid dalu rhagor am eu bara,” meddai Michael Clarke, prif weithredwr Premier Foods sy’n berchen ar Hovis.

Yn ogystal â methiant cnydau’r Unol Daleithiau, mae pryder y gallai Rwsia benderfynu gwahardd allforio cnydau oherwydd cynhaeaf gwael yno.

Ar ben hynny mae cnydau gwenith y Deyrnas Unedig wedi eu difrodi gan y tywydd gwael yn ystod yr haf.

Dywedodd Alex Waugh, cyfarwyddwr Cymdeithas Genedlaethol Melinyddion Prydain ag Iwerddon, fod “bryderon go iawn am gnwd y Deyrnas Unedig”.