Paul Ryan
Fe fydd ymgeisydd y Gweriniaethwyr yn etholiad Arlywyddol yr Unol Daleithiau, Mitt Romney, yn cyhoeddi pwy fydd ei Ddirprwy Arlywydd.

Y sïon yw mai’r aelod o Dŷ Cynrychiolwyr yr Unol Daleithiau dros Wisconsin, Paul Ryan, fydd ei ddewis.

Bydd y cyhoeddiad yn dod am 8.45 EST heddiw (1.45pm amser Cymru) o flaen yr USS Wisconsin, llong rhyfel o’r Ail Ryfel Byd.

Mae Paul Ryan yn enwog am fod o blaid torri’n ôl ar wariant cyhoeddus a hefyd ei wrthwynebiad i gynllun iechyd yr Arlywydd Barack Obama.

Y llynedd cyhoeddodd ‘Cynllun Ryan’, sef cyfres radicalaidd o gynigion er mwyn torri cyllideb y llywodraeth $6 triliwn o fewn degawd.

Dywedodd NBC News bod tro o’u ffynonellau wedi cadarnhau mai Paul Ryan oedd wedi ei ddewis gan Mitt Romney yn ddarpar-Ddirprwy Arlywydd.

Dros yr wythnos diwethaf roedd colofnau gan Weriniaethwyr ym mhapurau newydd y Wall Street Journal, y Weekly Standard a’r National Review wedi annog Mitt Romney i ddewis Ryan.

Mae eraill wedi rhybuddio y byddai’r Democratiaid yn cymryd mantais o lymder ‘Cynllun Ryan’ er mwyn ymosod ar Mitt Romney.

Mae cyfres o bolau piniwn diweddar wedi dangos bod Mitt Romney ar ei hol hi i’r Arlywydd Barack Obama.

Roedd pôl piniwn gan CNN ddydd Iau yn awgrymu bod Barack Obama saith pwynt ar y blaen.